DIGWYDDIADAU CYHOEDDUS
Sesiynau wedi’u cynllunio i ysbrydoli pobl o bob oed.
Yn archwilio pwnc gwahanol bob mis.

Gweithdai dydd Sadwrn
Darganfod y Bydysawd
Sut allwn ni weld ymhell i mewn i'r gofod? Darganfyddwch sut mae telesgopau wedi datblygu dros amser, gan ein galluogi i edrych ymhellach i mewn i gysawd yr Haul a thu hwnt. Archwiliwch sut mae'r offerynnau anhygoel hyn wedi newid y ffordd rydyn ni'n gweld ac yn deall y bydysawd.
Nid oes angen archebu, ond os ydych yn dod â grŵp o 8 neu fwy o bobl, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda:
📞 01792 919539
📧 info@orielscience.co.uk
Dydd Sadwrn 7, 14, 21 a 28 Tachwedd
11:00 - 12:00 & 14:00 - 15:00

Hwyl gwyddonol ar gael drwy’r dydd.
Fel arfer wedi’i anelu at blant iau – ond yn cael ei fwynhau gan bawb!

Archwilwyr y Lleuad
Mae ein Cornel Wyddoniaeth yn gwahodd pobl chwilfrydig o bob oed i edrych yn agosach ar y Lleuad!
Archwiliwch gyfnodau'r Lleuad, adeiladwch eich lleuad a'ch llyfr lluniau eich hun, a byddwch yn greadigol wrth greu model o'r Lleuad i'w dwyn adref
Nid oes angen archebu, ond os ydych yn dod â grŵp o 8 neu fwy o bobl, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda:
📞 01792 919539
📧 info@orielscience.co.uk
Bob dydd Sadwrn a dydd Sul ym mis Tachwedd
10:00 – 16:00
Arddangosfeydd
Arddangosfeydd newydd yn cyrraedd drwy gydol y flwyddyn.
ARDDANGOSFA
IMAGING




Mae IMAGING yn ein harddangosfa gyfredol sy’n addas i’r teulu cyfan, lle gallwch archwilio mwy na 40 o arddangosion diddorol sy’n dathlu’r ffordd y mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe yn delweddu, cofnodi a dehongli’r byd o’n cwmpas ac o’n mewn. O ddelweddu maint siarc Megalodon, a chreu model o bwmp calon, i ryngweithio ag arteffact o’r Mary Rose, a gweld sêr a galaethau pell, mae gan yr arddangosfa hon rywbeth i bawb!
Archwiliwch ein DIGWYDDIADAU BLAENOROL.
